A new internship opportunity is available to Wales Doctoral Training Partnership (DTP) students.
Mae cyfle am interniaeth newydd i fyfyrwyr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru.
Deadline: Friday 29 September 2017
English/Cymraeg
The ESRC Wales Doctoral Training Partnership is pleased to offer this opportunity to complete a four-month internship with the Welsh Government based in the Welsh Government’s National Survey for Wales team. The intern will work closely with social researchers, statisticians and policy teams. The internship will provide an opportunity to gain an insight into the work of the Welsh Government, to apply research and statistical skills and to further develop generic skills such as writing for a non-technical audience.
The proposed project involves carrying out regression analyses to identify the key drivers (such as demographics, income, qualifications, wellbeing, experiences and views) of outcomes against the national indicators.The internship is expected to begin in November 2017, although this is negotiable.
Download full details about the internship.
This internship is open to any ESRC Wales DTP funded student (currently ESRC funded students at Aberystwyth, Bangor, Cardiff and Swansea Universities) except those within 3 months of the start or end of their studentship. Those interested should first discuss this opportunity and its timing with their supervisor, whose approval will be necessary.
Please submit your completed application form to enquiries@walesdtp.ac.uk by 4pm on the day of the deadline.
Dyddiad cau: 29/9/2017
Cymraeg/English
Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn falch o gael cynnig y cyfle hwn i gwblhau interniaeth pedwar mis gyda Llywodraeth Cymru. Byddwch yn rhan o Dîm Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd yr intern yn cydweithio ag ymchwilwyr cymdeithasol, ystadegwyr a thimau polisi. Bydd yr interniaeth yn gyfle i gael cipolwg ar waith Llywodraeth Cymru, yn gyfle i roi’ch sgiliau ymchwil ac ystadegol ar waith ac yn gyfle i ddatblygu’ch sgiliau cyffredinol ymhellach, sgiliau fel ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa nad ydynt yn dechnegol.
Mae’r prosiect arfaethedig yn ymwneud â chynnal dadansoddiadau atchweliad er mwyn nodi’r prif yrwyr deilliannau (megis demograffeg, incwm, cymwysterau, llesiant, profiadau a safbwyntiau) yn erbyn dangosyddion cenedlaethol.
Disgwylir i’r interniaeth ddechrau yn Dachwedd 2017, er bod modd trafod hyn.
Lawrlwythwch y manylion llawn am yr interniaeth.
Mae’r interniaeth hon yn agored i unrhyw fyfyriwr sy’n cael arian gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ar hyn o bryd, myfyrwyr sy’n cael arian gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac yn astudio ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe) ac eithrio’r rheini sydd o fewn 3 mis i ddechrau neu i orffen eu hysgoloriaeth ymchwil. Dylai’r sawl sydd â diddordeb drafod y cyfle a’r amseriad gyda’i goruchwyliwr yn y lle cyntaf. Bydd angen cymeradwyaeth y goruchwyliwr arnoch.
Anfonwch eich ffurflen gais derfynol at enquiries@walesdtp.ac.uk erbyn 4pm ar y dyddiad cau.